Edgar Evans | |
---|---|
Evans yn 1911 | |
Ganwyd | 7 Mawrth 1876 Rhosili |
Bu farw | 17 Chwefror 1912 Beardmore Glacier |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | fforiwr, person milwrol |
Gwobr/au | Medal y Pegynau |
Fforiwr o Gymru oedd Edgar Evans (7 Mawrth 1876 – 17 Chwefror 1912). Roedd yn aelod o'r tîm a aeth i Antarctica i geisio cyrraedd Pegwn y De o dan arweinyddiaeth Robert Falcon Scott a chyrhaeddodd yno ar 17 Ionawr 1912, wedi taith o 11 wythnos. Bu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De.